Meddyg iechyd cyhoeddus yw Dr Rajan Madhok. Bu’n gweithio mewn swyddi rheoli meddygol uwch yn y GIG cyn ymddeol, ac erbyn hyn mae’n Aelod anweithredol o Fwrdd Llais, corff llais y dinasyddion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yma mae’n esbonio pam ei bod yn bwysig i bobl yng Nghymru rannu eu meddyliau, eu pryderon a’u syniadau er mwyn helpu i greu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy effeithiol.

Sefydliad annibynnol sy’n cynrychioli lleisiau pobl Cymru wrth lywio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw Llais.

Cafodd ei lansio i gymryd lle’r cynghorau iechyd cymuned y llynedd. Mae’r corff yn cynrychioli adborth y cyhoedd am ofal cymdeithasol yn ogystal â gwasanaethau iechyd. Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae yna un corff sy’n edrych ar bob math o ofal – y siwrnai iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd felly.

Fodd bynnag, mae yna sialensiau ynghlwm wrth y cyfle hwn i osod pobl wrth galon cynllunio a darparu gwasanaethau a sicrhau gofal cydgysylltiedig.

Mae hi’n gyfnod anodd dros ben, gyda’r galw’n cynyddu a’r adnoddau’n gyfyngedig; mae’r GIG a gofal cymdeithasol dan bwysau mawr, sy’n achosi trallod i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Mae angen i bawb wneud rhagor, a hynny’n gynt, er mwyn gwella gofal i bawb.

Mae Llais eisoes yn helpu unigolion trwy ein gwasanaethau Eiriolaeth ar Gwynion, trwy ymgysylltu pobl yn eu cymuned leol a chynrychioli eu llais ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol gyda’r Cyrff Iechyd, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

Ond rydyn ni’n awyddus i wneud rhagor!

Llais cyfunol y bobl

Llais yn Theatr Llanfair-ym-Muallt yn cefnogi Age Cymru

Dyna pam ein bod ni’n cynnwys pobl o holl gymunedau Cymru ac yn ceisio sicrhau ein bod ni’n codi llais y grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli – y rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml iawn.

Mae angen mawr am roi llais cyffredin i’r bobl nawr; mae angen i bobl sy’n byw yng Nghymru rannu eu meddyliau, eu pryderon a’u syniadau â ni fel y gallwn ni gydweithio ag eraill er mwyn helpu i greu system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n fwy addas at ei phwrpas.

Yn aml iawn, y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i weld ymhle y gall ac y dylai pethau wella ar sail eu profiadau byw, ac rydyn ni am greu ffyrdd o ddefnyddio’r arbenigedd gwerthfawr ac y mae mawr angen amdano yn y ffordd orau bosibl.

Rydyn ni’n sylweddoli bod pobl yn rhwystredig â’r diffyg gwelliannau, neu nad oes diddordeb ganddynt wneud dim am nad ydyn nhw’n gallu gweld sut y bydd pethau’n newid.

Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae wrth newid y meddylfryd yma. Mae angen gwirfoddolwyr arnom i helpu i wneud newidiadau; gwirfoddolwyr sy’n gallu ac sy’n fodlon siarad â chymunedau lleol a grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau i’w hannog i gamu ymlaen, a gweithio gyda darparwyr i wneud gwelliannau hirdymor.

Mae angen gweithredu

Mae Llais yn gwybod fod angen gweithredu ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae hi wrthi’n datblygu cynlluniau i weithio fel hyn i gael yr effaith fwyaf bosibl.

Ond dim ond os ydyn nhw wir yn adlewyrchu anghenion y bobl, ac os yw pobl Cymru’n gysylltiedig â’r broses ac yn cael eu hymbweru ganddi y bydd y cynlluniau hyn yn effeithiol.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r bobl sy’n llunio polisi a sefydliadau eraill fel y gallwn ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau gyda’n gilydd.

Rydyn ni eisoes yn gweithio i hyrwyddo arferion da gan gynorthwyo a hyrwyddo atebion yn y gymuned, ac yn defnyddio technoleg i sicrhau gwasanaethau hygyrch.

Chwaraewch eich rhan

Mae Llais yn gwirfoddoli ym Mhowys

Byddwn ni’n adeiladu ar y pethau hyn ac yn creu sefydliad a fydd yn newid ac yn gwella’n barhaus, gan anelu at sicrhau bod gwasanaethau’n canolbwyntio ar bobl, a bydd angen cymorth arnom i gyflawni hyn oll.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i bobl siarad â ni – a rhannu eu profiadau am iechyd a gofal cymdeithasol – neu brofiadau’r rhai sydd yn eu gofal – fel y gallwn ddefnyddio eu safbwyntiau a’u dirnadaeth i lywio dyfodol y gwasanaethau.

Mae angen gwirfoddolwyr arnom i helpu i gasglu’r safbwyntiau hyn – i siarad â phobl am Llais wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar lein, ac i roi gwybod i bobl fod Llais yn bodoli a’i fod yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Mae Llais ond mor gryf â’r bobl y mae’n eu cynrychioli, felly cofiwch ymuno â ni a helpu i chwarae eich rhan yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.

Gyda’n gilydd, fe allwn ni!

Darganfod mwy

I glywed am gyfleoedd i wirfoddoli a rhannu eich profiadau, ewch i www.llaiscymru.org